Nofel sydd wedi ei gosod yn ystod gaeaf garw 1981, cyfnod pan oedd prisiau tai yn codi a phobl ifanc ardaloedd gwledig Cymru yn methu prynu tai yn eu bröydd. Nofel sy'n parhau'n berthnasol i broblemau Cymru heddiw.

Dwi’m yn cofio’r tro diwethaf i mi ddarllen llyfr a wnaeth i mi deimlo cymaint o wahanol emosiynau â llyfr newydd Haf Llewelyn. Fel person (gweddol) ifanc, mae’r pwnc dan sylw yn agos at fy nghalon ac roeddwn i’n llythrennol yn gweiddi ar brydiau wrth ddarllen, yn symud rhwng ocheneidiau o ryddhad un foment ac yna’n diawlio’r funud nesaf.

Fel yr awgrymir gan y teitl, mae’r llyfr yn cyfeirio at bwnc llosg (idiom go addas yn yr achos yma) sy’n hynod o bwysig ar hyn o bryd, ac er mai ym 1981 y gosodwyd y nofel, mae hi’n hynod o berthnasol i ni heddiw. Mae Dafydd a Llinos, fel nifer o gyplau ifanc, yn awyddus i fyw yn eu bro, yn hen gartref Nain Dafydd, Ty’n Drain. A hithau’n gorfod symud i gartref henoed, mae’r hen wraig yn awyddus i basio’r awenau ymlaen i’r cwpwl ifanc. Yn anffodus, mae gan ewythr diegwyddor Dafydd syniadau gwahanol wrth iddo sylweddoli y gallai wneud ei ffortiwn drwy werthu’r bwthyn fel tŷ haf – rhywbeth a fyddai’n mynd yn hollol groes i ddymuniadau Nain.

Yn anffodus, dyma sefyllfa sy’n gyfarwydd ar draws ein cymunedau. Yn yr achos yma, mae’n ddigon i greu rhwyg mawr yn nheulu Llinos a Dafydd, wrth i rai gychwyn ffraeo ac i eraill gael eu dal yn ei chanol hi wrth geisio cadw’r ddysgl yn wastad. Mae rhwystredigaeth a siom y cwpwl ifanc yn amlwg, ac wrth i’r tensiwn rhwng y cymeriadau gynyddu drwy’r nofel, mae’r sefyllfa yn barod i ffrwydro!

Daeth sawl llinyn storïol at ei gilydd yn y nofel, ac roedd yr awdur yn gelfydd wrth fynd ati i ddangos yr ‘amrywiaeth caleidosgopig’ o safbwyntiau, a hynny o fewn un teulu, a sut y caiff pob un ei effeithio’n wahanol gan y sefyllfa. Cawn hefyd flas ar fywyd yng nghyfnod Meibion Glyndŵr, y mudiad cenedlaetholgar dirgel sy’n gwrthwynebu’r tai haf. Wrth i’r Heddlu fynd yn fwy despret i ddod o hyd i’r rhai sy’n gyfrifol am losgi’r tai, does neb tu hwnt i amheuaeth ac fe geir cryn dipyn o bwyntio bys a chyhuddo ...

Roedd y llwynog yn thema gyson drwy’r llyfr, gyda nifer o gyfeiriadau at gerdd enwog R. Williams Parry. Yn debyg iawn i’r Meibion, sy’n gweithredu’n gyfrwys ac yn ddistaw yn y cysgodion fin nos, mae’r ddelwedd o’r llwynog yn addas iawn yma.

Wrth ddarllen, roeddwn yn cydymdeimlo â Dafydd a Llinos, oedd eisiau byw a magu teulu ym mro eu mebyd, a bod y cyfle yn greulon o agos – ond eto mor bell i ffwrdd o’u gafael. Mae penbleth y cwpl ifanc yn codi cwestiwn mawr – oes gennym ni hawl sylfaenol i fyw adra?

Rydym wedi dod yn bell ers dyddiau llosgi adeiladau er mwyn gwneud safiad, ac o bosib, trwy ddulliau deialog ystyrlon ac agored gyda’r rhai mewn grym y mae sicrhau gwir newid. Mae’n galonogol fod ymgyrchoedd heddychlon fel ‘Hawl i Fyw Adra’ wedi agor ddeialog gyda’r Llywodraeth ar sut i fynd ati i ddatrys y broblem. Wedi dweud hynny, bydd sicrhau newid go iawn yn broses hir, sy’n fawr o gysur i’r rheiny sydd angen tŷ rŵan. Yn y cyfamser felly, mae’r cwestiwn o ‘ga i fyw adra?’ yn parhau ...

Morgan Dafydd

Ga’ i fyw adra?

£7.95Price