Llyfr stori-a-llun gwreiddiol, sy'n archwilio dyheadau a dychymyg plentyn. Ar bob tudalen mae'r prif gymeriad yn archwilio'r profiad o fod yn wahanol fathau o greaduriaid megis ddeinosor, pengwin, octopus neu grocodeil... ond yn fuan mae'n sylweddoli ei fod yn unigryw ac nad oes unrhyw un arall yn debyg iddo. Mae hyn yn anhygoel o arbennig!
Dyma stori ddoniol, wedi ei hadrodd yn syml gyda thro bach annisgwyl ar y diwedd!
Dwi eisiau bod yn ddeinosor
Ond dwi fymryn yn rhy fach.
Dwi eisiau bod yn sombi hyll
Ond mae gen i groen reit iach.
Dwi eisiau bod yn seren bop
Ond does gen i ddim y ddawn.
Dwi eisiau bod yn ninja slei
Ond dwi ddim yn gyfrwys iawn.
Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor
£6.99Price