Mae taith adref o dŷ Nain yn troi'n antur fawr. Wrth i Awel a Glan orfod treulio noson yn cysgu dan y sêr maen nhw'n siŵr eu bod nhw'n gweld anghenfil y môr - ond does dim o'r fath beth yn bod, nag oes? Addasiad Cymraeg Anwen Pierce o Ebb and Flo and the Sea Monster.

The following has been provided by the Publisher:

Author Biography:

Mae Jane Simmons yn awdur a darlunydd llyfrau plant a hi yw’r person y tu ôl i gyfres llyfrau Awel a Glan. Astudiodd ddarlunio ym Mhrifysgol Anglia Ruskin ac enillodd wobr Macmillan Children’s Book Prize yn ei dwy flynedd olaf yno. Gwnaethpwyd cyfres deledu o’r llyfrau Saesneg gwreiddiol, Ebb and Flo, a ddarlledwyd yn 2005 ar Sianel 5, wedi’i adrodd gan Fiona Shaw. Darlledwyd y sioe mewn mwy na 100 o diriogaethau ledled y byd.

Awel a Glan ac Anghenfil y Môr

£7.99Price