♥ Welsh-language Book of the Month: June 2023
A romantic novel set in the Rhondda Valley, Spain and London during the Second World War. A talented young Welsh singer meets an English man from a totally different background. Will their relationship prosper?
Nofel hanesyddol sy'n stori garu, ac yn llawer mwy. Wedi ei gosod yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd, mae'n dilyn hynt cantores ifanc o ardal Clydach a'i pherthynas â Sais ifanc o gefndir hollol wahanol. Yn gefndir i'w stori mae bywyd Cwm Rhondda, y Rhyfel Cartref yn Sbaen a bywyd lliwgar Llundain - o’r Academi Gerddorol i'r clybiau nos.
Gwales Review
Os oes gennych rywfaint o ddiddordeb mewn hanes diweddar, yn arbennig 30au a 40au’r ganrif ddiwethaf, ac yn mwynhau stori garu dda, yna mae hon yn nofel y dylech ei darllen. Wedi dweud taw stori garu sydd yma, mae’r nofel yn llawer mwy na hynny – mae’n gofnod cymdeithasol o Brydain y cyfnod, mae’n wleidyddol, mae’n llawn gwrthdaro.
Y man cychwyn yw carwriaeth Siân a George – y naill o Gwm Rhondda a’r llall o Lundain, un ohonynt o gefndir dosbarth gweithiol a’r llall o deulu tipyn mwy breintiedig, (yn ariannol, beth bynnag). Maent yn cyfarfod mewn coleg yn Llundain, y ddau yn gerddorion. Mae’r garwriaeth yn un llawn heriau, a’r darllenydd yn cael cip ar emosiynau amrwd iawn y pâr ifanc.
“Felly stori garu ddigon cyffredin,” meddech chi. Efallai wir, ond yr hyn sy’n codi’r nofel hon i dir uwch yw cyfoeth yr hanes sy’n cael ei wau’n gelfydd drwy’r plot.
Mae ôl gwaith ymchwil manwl ar y nofel a hynny i’w ganmol. Er enghraifft, ceir cyfeiriad at ffatrïoedd ffrwydron yr Ail Ryfel Byd a gwaith merched yno; ond nid cyfeiriad yn unig a geir, manylir ar effaith y defnyddiau crai ar iechyd y merched. Mae cyfyngderau a heriau eraill y rhyfel yn rhan bwysig o’r nofel, yn creu naws arbennig y cyfnod. Down i adnabod dwy ifaciwî ifanc a’u ciamocs wrth iddynt ymgartrefu yn y Cwm, blaswn y bwyd plaen a theimlwn effaith y dogni, darllenwn gyda’r glowyr yn y Miners Institute a theimlwn eu hawch am addysg a chyfiawnder, a chydymdeimlwn â’r merched yn eu dawnsfeydd un-rhyw. Yn sgil diddordeb y gantores Siân mewn canu mae miwsig y cyfnod hefyd i’w glywed.
Ond mae hanes cyfraniad y Brigadau Rhyngwladol i Ryfel Cartref Sbaen a’r ymdrech i sicrhau Sbaen Weriniaethol a Democrataidd yn fwy anghyfarwydd ac yn wirioneddol ddifyr. Mae’n ffaith fod nifer o lowyr de Cymru, dan effaith y Blaid Gomiwnyddol, wedi gadael y wlad yn anghyfreithlon er mwyn ymuno â’r lluoedd yma. Yn y nofel hon mae un o frodyr Siân yn gwneud hynny a daw’r hanes yn fyw yn sgil ei brofiad e.
Mae’r nofel hon yn bytiog o ran arddull. Symudwn o stori Siân i stori George, a chawn deithio o Lundain i’r Rhondda, o glwb nos i gapel, a hyn yn gwneud y darllen yn hawdd a hwylus.
Pe na bai’r disgrifiadau o’r strydoedd cul, y tipiau glo, y Stiwt a’r capeli di-ri yn ddigon i leoli llawer o’r stori yng Nghwm Rhondda, mae’r dafodiaith sy’n britho’r nofel (a hynny heb ei gwneud yn nofel anghyraeddadwy i’r rhelyw), yn glo ar y cyfan. Ry’n ni’n byw mewn oes lle mae tafodiaith ar drai, mae darllen nofel fel hon yn atgoffa rhywun o mor bert y gall y dweud fod, cymaint y cyfoethogir y Gymraeg o roi parch i iaith lafar amrywiol ein hardaloedd.
Gobeithio y cawn nofel arall yn fuan gan Gareth Thomas – melys moes mwy.
Dana Edwards
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Books Council of Wales.
top of page
£9.95Price
Only 3 left in stock
bottom of page