Dyma gyfrol am gefndir a chyfraniad Twm Carnabwth i fudiad y Becca yng ngorllewin Cymru yng nghanol y 19eg ganrif. Gosodir y digwyddiad yn ei gyd-destun cymdeithasol a does yna'r un astudiaeth mewn manylder cyffelyb wedi'i chyhoeddi hyd yma. 37 o ffotograffau.

Mae Hefin Wyn yn adnabyddus fel awdur nifer o gyfrolau nodedig ar ffigyrau eiconaidd o Gymru megis Waldo Williams (2012), Meic Stevens (2015) a Niclas y Glais (2017). Ond ffigwr hanesyddol a aeth, efallai, yn dipyn o angof erbyn ein hoes ninnau yw testun yr astudiaeth hon, sef Thomas Rees – Twm Carnabwth (1806?–76), un o arweinwyr amlycaf mudiad Merched Beca rhwng 1839 ac 1843. Roedd yn hanu o dyddyn Carnabwth oedd ar y ffin rhwng plwyfi Mynachlog-ddu a Llangolman ger mynyddoedd y Preseli yng ngogledd Sir Benfro.

Disgrifir Twm fel ‘dyn gwydn yn ogystal â brwysg’, rhinweddau a fu o fudd mawr iddo yn ystod y cyfnod anodd hwnnw. Darllenwn fod ganddo ‘gydwybod gymdeithasol a pharodrwydd i beidio â phlygu i’r drefn. Os gwelai anghyfiawnder, ei reddf oedd ei symud yn hytrach na’i oddef. Byddai’n uchel ei gloch os gwelai gam.' Roedd felly yn arweinydd delfrydol ar gyfer y ffermwyr lleol hynny a aeth ati’n danbaid i ddinistrio tollborth Efail-wen yn 1839, gan roi cychwyn ar fudiad Beca a’r gwrthryfel a ledodd yn fuan i nifer o ardaloedd eraill ledled gorllewin a de Cymru.

Cyhoeddwyd nifer o astudiaethau ar y mudiad hwnnw, y rhan fwyaf yn Saesneg, yn eu plith astudiaethau yr Athrawon David Williams a D. J. V. Jones. Ond bellach, diolch i ymdrechion Hefin Wyn, mae gennym gofnod llawn o fywyd a chyfraniad allweddol Twm Carnabwth ei hun. Rhoddir sylw i’r dylanwadau a greodd ei gymeriad, a thrafodir yr ardal y bu’n trigo ynddi, a’r ffactorau a arweiniodd at gynnal mudiad Beca mewn cyfnod rhyfeddol o lwm yn ein hanes yn yr ardaloedd gwledig, a chyfnod o dlodi enbyd yn sgil gweithredu Deddf y Tlodion 1834.

Cafodd Hefin Wyn hwyl anghyffredin wrth ei ymchwil a bydd y gyfrol yn sicr yn sbardun i eraill sy'n ymchwilio yn y maes hwn. Cafodd lwyddiant yn ei ymdrechion i olrhain rhai o ddisgynyddion Twm o fewn ei ardal enedigol – mae’n debyg bod nifer o unigolion â’r cyfenw Rees yn honni eu bod yn ddisgynyddion uniongyrchol iddo. Bu’r awdur yn amlwg yn pori’n ddiwyd drwy ysgrifau ac erthyglau niferus a luniwyd yn ystod y cyfnod yn y Carmarthen Journal a Seren Gomer, a rhoddir pwyslais yma ar y cerddi a’r caneuon a luniwyd am Twm Carnabwth. Daeth llawer iawn o ffeithiau newydd i’r golwg yma am ardal nodedig y Preseli.

Dull i ddenu mwy o bres o bocedi ffermwyr yr ardal i goffrau’r llywodraeth oedd y tollbyrth. Roedd y ffermwyr hyn yn gorfod teithio’n lled reolaidd i waelod y sir er mwyn casglu calch ac felly’n gorfod talu nifer o dollau ar y ffyrdd troellog. Daeth y tollbyrth yn symbol o’r gorthrwm a fu ar bobl gyffredin y cylch hwn.

Prif gamp Hefin Wyn yw ei lwyddiant wrth geisio ail-greu bywyd Twm Carnabwth ei hun, tasg ryfeddol o anodd gan mor brin a thenau yw’r dystiolaeth sydd ar gael. Roedd yn amlwg yn gymeriad lliwgar a direidus, yn hoff o’i ddiod ac wrth ei fodd yn herio’r awdurdodau. Hoffai dynnu coes ei gyfeillion. Roedd Twm mor boblogaidd ac uchel ei barch fel nad oedd neb yn barod i’w fradychu i’r awdurdodau, er iddynt gynnig pris mawr am wybodaeth, ac er y gwyddai pawb mai ef oedd un o arweinwyr mwyaf tanbaid y mudiad. Petai’r awdurdodau wedi ei arestio, byddai hynny o reidrwydd wedi arwain at wrthryfel.

Gosodir llawer o ddeunydd diddorol a phwysig mewn cyfres o atodiadau ar ddiwedd y gyfrol. O blith y rhain, cefais flas anghyffredin yn darllen y portread o’r Athro David Williams (1900–78), brodor o Sir Benfro , Athro Hanes Cymru ym Mhrifysgol Cymru ac awdur The Rebecca Riots (Caerdydd, 1955), cyfrol sydd yn dal o werth aruthrol. Difyr yn ogystal yw’r dyfyniadau a geir yma o nifer o ganeuon a cherddi perthnasol o gyfnod Twm Carnabwth.

Pleser yw gweld defnydd o droednodiadau academaidd gwir gynorthwyol, a darperir hefyd fynegai manwl ar ein cyfer. Ceir gwledd o ffotograffau a lluniau diddorol. Hyfryd yw gweld Hefin Wyn yn cyflwyno’r gyfrol er cof am Muriel Bowen Evans (1928–2015), o Drelech, sir Gaerfyrddin, hanesydd lleol arall ac awdur toreithiog a wnaeth ei ysbrydoli’n fawr dros nifer fawr o flynyddoedd.

J. Graham Jones

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Books Council of Wales.

A’r Drywydd Twm Carnabwth

£9.99Price